Amdanom ni
Y tîm tu ôl i Sgwâr
Beth sy'n gwneud Sgwâr yn arbennig

Wedi'i leoli yng nghanol Porthaethwy, mae ein llety wedi'i hadnewyddu yn cynnig amgylchedd glân ac eang sy'n llawn golau naturiol.

Rydym yn ymfalchïo mewn creu gofod cynaliadwy ac amgylcheddol ymwybodol ar gyfer arhosiad cyfforddus.

Rydym wedi ein lleoli uwchben ein bwyty Eidalaidd dilys, Plus39, sy'n ganolbwynt ar gyfer cwrdd â ffrindiau am goffi neu ddal i fyny dros Pinsa Eidalaidd a gwydraid o win.
Dewch i brofi Ynys Môn drosoch eich hun
Beth am ymweliad â chastell Biwmares neu daith cwch ar hyd y Fenai i gychwyn eich taith? Mae’r ynys yn gartref i fywyd gwyllt amrywiol, gan gynnwys adar y môr a morloi, sy’n ei gwneud yn lle gwych i selogion bywyd gwyllt. Mae gennym filltiroedd o arfordiroedd tywodlyd, mannau gwych ar gyfer chwaraeon dŵr fel caiacio a syrffio – mae’n baradwys i’r rhai sy’n caru’r awyr agored.
P’un a ydych am fwynhau taith hamddenol ar hyd y dŵr, neu fwynhau rhywfaint o fwyd lleol, rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich arhosiad. Mae Ynys Môn yn enwog am ei bwyd môr gyda llaw!
Ynys hanesyddol llawn cymeriad
Mae gan Ynys Môn ei hunaniaeth a’i hysbryd cymunedol cryf ei hun.
Oeddedd chi’n gwybod?
- Mae Ynys Môn yn cael ei hadnabod fel “Môn Mam Cymru”, sy’n cael y clod am gynnal y genedl gyda’i thir ffrwythlon.
- Yr ynys yw cartref nawddsant cariadon Cymru, Santes Dwynwen, tywysoges Gymreig o’r bedwaredd ganrif a ddaeth yn lleian a sefydlu lleiandy ar Ynys Llanddwyn.
- Mae’r Fenai yn un o’r lleoedd gorau yn y DU i dyfu cregyn gleision ac mae wedi cael ei ddefnyddio ers cyfnod y Rhufeiniaid. Mae tua 50% o gynhyrchiant cregyn gleision y DU yn cael ei ffermio ar hyd y Fenai.
Arhosiad hollol hyfryd! Caffi Eidalaidd rhyfeddol i lawr y grisiau, ystafell glyd, a lleoliad perffaith. Eisoes yn cynllunio fy ymweliad nesaf!
Really lovely clean rooms and friendly owners. Great location too, really handy for the university just over the bridge.